Syrffio’r internet, 1995 stylee

Ganwyd y We Gymraeg yn 1995. Cyn hynny roedd nifer o Gymry Cymraeg yn cyfathrebu ar rhestrau ebost fel welsh-l, ar grŵp Usenet soc.culture.welsh (a nes ymlaen wales.cymraeg) a’r sianeli sgwrsio byw IRC. Y lle rhwydda i gael mynediad i’r rhyngrwyd oedd yn y prifysgolion neu’r prif lyfrgelloedd a felly cymuned academaidd wnaeth ddatblygu a chynnal rhan fwyaf o’r gwasanethau a’r wybodaeth yn y cychwyn.

Yn 1994 roedd myfyriwr o Gymru yn astudio am PhD ar ‘fywyd artiffisial’ yng ngholeg Manceinion. Gan fod ei gyfrifiadur gwaith yn y coleg yn rhedeg Linux a wedi ei gysylltu a’r rhwyd fe wnaeth sefydlu y porth cynta ar gyfer y we Gymraeg - Gwe Awê. Roedd hwn yn cynnig dolenni tudalennau Cymraeg arall ar y we a llety i rai gwefannau arall yn Gymraeg. Yn ogystal a hyn fe roedd yn cynnal cyfeiriadur ‘Cymuned Gymraeg Rhithwir’ oedd yn caniatáu defnyddiwr i greu ‘tudalen cartref’ iddyn nhw eu hunain yn cynnwys ychydig o wybodaeth amdanynt. Fe roedd ‘llyfr gwesteion’ syml yno hefyd, rhagflaenydd y negesfwrdd.

Enw’r myfyriwr oedd Rhys Jones a fe aeth ymlaen i fod yn un o’r technopreneurs prin sydd yng Nghymru, gan sefydlu cwmnïau Technoleg Gwe, Secure Trading a Accountis.

Erbyn 1995, er mai rhestrau ebost oedd y prif gyfrwng trafod o hyd, roedd nifer o wefannau Cymraeg wedi dechrau - rhai gan unigolion yn cynnig gwybodaeth ac eraill gan gwmnïau yn cynnig gwasanaethau neu gynnyrch. Doedd y cyfryngau ddim yn siwr sut i bortreadu y cyfrwng newydd bygythiol hwn a felly fe gafwyd cymysgedd rhyfedd o eitemau a rhaglenni dogfen - rhai yn portreadu ryw utopia technolegol ac eraill yn canolbwyntio ar ‘beryglon’ fel pornograffi a diffyg rheolaeth neu sensoriaeth. Fe roedd rhaglenni plant fel Uned 5 yn llawer fwy rhesymol a diffwdan.

Fel archif bach o’r hyn a fu, dyma glip o Uned 5, a ddarlledwyd ar Fehefin 20fed 1995, bron 11 mlynedd yn ôl. Mae Nia Elin yn cyflwyno’r ‘uwchdraffordd wybodaeth’ gyda chymorth Keith Morris.

2 Sylw i'r cofnod “Syrffio’r internet, 1995 stylee”

  1. Meddai Nic:

    Roedd popeth yn Times New Roman nôl yn y dydd, ond oedd?

    Fideo gwych.

  2. Meddai Mei:

    ‘Rargol:

    http://www.jpbowen.com/alice/

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.