daflog

  • Cyhoeddwyd: 17:38, Mehefin 1, 2006
  • Categori: Newyddion
  • Sylwadau: 1

Heddlu’n saethu?

Mwy o benawdau amwys gan newyddion y BBC – “Mwy o heddlu wedi saethu“. Pan weles i hwnna yn y darllenydd RSS feddylies i “wedi saethu beth?”, wedyn o’n i’n meddwl mai “wedi’u” oedd e fod a mai sôn am rhyw gyflafan o heddweision wedi’u saethu rhywle.

A pan es i i’r stori lawn i weld be ddiawl o nhw’n feddwl ges i ffenest bach yn dod fyny a dweud “Helpwch ni i gadw ein bys ar y pyls.”. Pa byls? Oes rhywun yn anymwybodol? Fydd rhaid i fi wneud CPR? Dwi’n drysu..

Un sylw to “Heddlu’n saethu?”


  1. Huw Waters
    ar Meh 1, 2006
    @ 22:48

    Mae di bod yn ddiwrnod hir Dafydd.

    Well i ti fynd i gysgu…

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.

Switch to our mobile site