Archif ar gyfer May, 2006

Gwyno

Wednesday, May 17, 2006 13:28

Dwi’n meddwl wnai ddanfon fy gwynion am safon y cyfieithu a’r holl gamgymeriadau ar wefan Llywodreath y Cynulliad.

Mwy o Grindell

Monday, May 15, 2006 22:41

Wedi ei achub o hen fideo, dyma John Grindell yn gwneud perfformiad myletastig ar Uned 5 yn 1996. Drychwch arno fe’n swyno’r synthau, anwesu’r allweddellau, mwytho’r meicroffon… Ie, wel chi’n cael y syniad.

Fel plantos a’i tegannau

Saturday, May 13, 2006 23:47

Pan nes i ddechrau cymryd diddordeb yng ngherddoriaeth cyfoes Cymraeg ar ddiwedd yr 80au, mi fyddai gwylio Fideo 9 yn ddefod hanfodol. Doedd dim lot o ddiddordeb gen i mewn gwylio band ysgol arall yn chwarae gitârs a thrio bod yn sêr roc. Felly fe fyddai ambell fideo yn wneud i fi eistedd lan a [...]

Peli a ffrwythau

Friday, May 12, 2006 00:20

Llynedd, fe wnaeth Sony wneud hysbyseb ar gyfer ei setiau teledu LCD newydd, gyda’r brand Bravia. Er mwyn gwneud hyn fe wnaethon nhw ollwng miloedd o beli rwber lawr un o strydoedd serth San Francisco. Dyma wefan yr hysbyseb le mae’n bosib gweld yr hysbyseb a sut aethon nhw ati i’w greu. (Gwefan wael sydd [...]

Y We Scymraeg

Thursday, May 11, 2006 16:32

Yn parhau y thema, des i ar draws wefan cwmni Galeri, sy’n “asiantaeth o fri” ar gyfer cantorion, cerddorion. Mae’r dudalen gyntaf yn cynnig dewis iaith gyda’r baneri bondigrybwyll, ond beth am y tu fewn? Dyw’r cyfieithiadau ar y dudalen gartref Cymraeg ddim yn dechrau da - “cleientydd logiwch yma”, “Digwyddiadau ar ddod”. Does neb [...]