daflog

Cyfryng-hwr

Mae aelodau’r Rhithfro yn hoff o ymddangos ar y cyfryngau. Mae Dogfael a Rhodri wedi ymddangos ar Wedi 7 , fe wnaeth Rhys fodelu dillad ar BBC Breakfast, mae Geraint wedi gwneud un neu ddau ymddangosiad ar S4C a mae Nic bron a bod yn gyfryngi llawn amser. Sôn wedyn am Radio Cymru, fe wnaeth Ray gyfweliad wythnos yma ond mae Chris yn hen law ati.

Fi? Dwi’n hoffi gwneud pethau ychydig yn wahanol. Wnes i ymddangos ar BBC1 Wales neithiwr tua 19.47 am 2.3 eiliad. Showbiz! Dyma lun:
fi

3 o sylwadau to “Cyfryng-hwr”


  1. Nic
    ar Mai 26, 2006
    @ 00:46

    Ti yw JD Salinger y blogwyr Cymraeg, Daf.


  2. Rhys
    ar Mai 26, 2006
    @ 10:17

    Petawn i wedi agor fy e-bost tra yng Ngwlad y Basg, gallwn fod wedi cael fy nghyfweld (yn Saesneg) ar gyfer y rhaglen radio Basgeg Irratia, yn dilyn yr erthygl yma am y Rhithfro.


  3. Rhys
    ar Mai 26, 2006
    @ 10:19

    Sori, gwnwes i lanast o’r dolenni uchod

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.