Ail-wampio’r mapio

Ces i cyfle (prin) heddiw i weithio ar Curiad eto, ac i wella y defnydd o fapiau Google. Yn ddiweddar mae Google wedi diweddaru eu API* i fersiwn 2, oedd yn golygu ychydig bach o newidiadau i’r cod sy’n creu’r mapiau, ond ddim byd rhy galed.

Wedyn wnes i rhywbeth roeddwn eisiau gwneud ers sbel – ar dudalen lleoliadau gigs, cael gwared o’r ddolen [map] i Multimap a chael map Google yn lle. Mi wnes i dreulio cwpl o oriau yn arbrofi gyda’r ffordd orau o gynnwys y map yn y dull mwya hyblyg a ‘glân’ (doeddwn i ddim eisiau cynnwys llawer o JavaScript yn y dudalen ei hun). Mae’n ffitio reit neis i gynllun y dudalen – dyma wybodaeth Tafarn y Fic er enghraifft.

Mae Google wedi newid eu ffynhonnell data i’r mapiau yn ddiweddar a mae’r wybodaeth yn fwy cywir na’r hen un, er mai enwau Saesneg sydd ar y map o hyd yn anffodus.

* Sgwn i beth fyddai API (Application Programming Interface) yn Gymraeg? Rhyngwyneb Rhaglennu Rhaglen? Ych!

3 thoughts on “Ail-wampio’r mapio

  1. Da iawn wir.

    Mae gen ti ddau gofnod ar gyfer y Llew Du, Aberteifi, gyda llaw.

  2. Tybed, a fyddai modd ychwanegu lluniau trwy ddefnyddio RhRhRh Flickr? Crafu am allweddeiriau “gigfap” a’r cod sy yn yr URL (“l54″ am y Ship, Llangrannog, er enghraifft).

  3. Diolch, roedd e yna gyda cod post gwahanol (ac anghywir) am ryw reswm. Mae yna gymaint o lewod coch, du a gwyn yng Nghymru!