A dyma’r newyddion…

Mae’r BBC wedi ryddhau fersiwn hir o gerddoriaeth agoriadol News 24. Dwi’n caru stwff fel hyn - mae cyfansoddiadau David Lowe yn wych. Mae’n cyfleu hunan-bwysigrwydd ‘Y Newyddion’ i’r dim gyda awgrym o goegni - sylwch gymaint o swooshes, blîps bach a drym riffs sydd yn cael ei wasgu fewn erbyn hyn. Dwi’n meddwl fod y thema newydd yn cyrraedd yr un lefel o wychrwydd o’r cyfnod ‘drymiau a baneri‘.

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.