Mwy o Grindell

Wedi ei achub o hen fideo, dyma John Grindell yn gwneud perfformiad myletastig ar Uned 5 yn 1996. Drychwch arno fe’n swyno’r synthau, anwesu’r allweddellau, mwytho’r meicroffon… Ie, wel chi’n cael y syniad.

3 thoughts on “Mwy o Grindell

  1. Hmmm, rwbeth siriwsli rong efo hwnna a Martin Geraint am ‘petha plant’ ynde? Hen bryd i ail godi the John Grindell Appreciation Society? Ella dim. Am eiliad roedd Grindell mewn ffasiwn, wedyn blynyddoedd o midi madness, ei fersiwn o ”Children” gan John Miles recordiwyd fewn rhyw Ysgol Meithrin yw y syniad/concept waethaf ef. (Sick or what?), mae hwnna (yn fyw) ar gael ar CD cawslyd ”Hyn Oll A John Grindell”..thing is he deadly serious! Bad concept arall oedd ei STEPS TRIBUTE BAND gan rhyw ‘ferch’ dan adain..history is not kind to John.

  2. Gyda llaw, unrhywun sy’n ‘credu’ slogan Y Cymro a ‘glaw ei hun’ SWYNWR Y SYNTHS yn dioddef o ego mwyaf na rhys ‘small time manager’ Mwyn! Hefyd be di’r lol am ‘Stiwdio JG’??? Not quite Paisley Parc is it?? (Caia Parc??), the claasic pose efo Roland Keyboard Crys-T takes some beating tho. Murder by midi ffeil, send him a tenner for a DAT?? Ydi Grindell ar MySpacedOut teen.com?? Dim ffrinidau?? (Acually thats cool)
    Johnny R Y Byd (Mor wahanol)

  3. Gan fy mod yn athro a chan fy mod wedi gweithio i Awdurdod Addysg Lleol Wrecsam am 12 mlynedd, mae’n naturiol fy mod yn ysgrifennu a chyfieithu caneuon i blant. Os ydy Johnny R yn meddwl fod rhywbeth “siriwsli rong” yng nglyn ag athro yn gweithio efo plant, efallai y gall esbonio sut y gallwn addysgu ein plant?!
    Dydy’r awdurdodau addysg a’r 60 o ysgolion sy’n trefnu Jamboris efo fi a Martyn Geraint ar gyfer dros 2000 o blant pob blwyddyn ddim yn meddwl fod rhywbeth “siriwsli rong” efo hyn. Efallai mae’n bryd i Johnny R aeddfedu a sylweddoli fod dyfodol y Gymraeg yn nwylo ein plant [yn cynnwys fy nau mab innau] ac os dan ni’n gorfod cyfieithu caneuon Steps i’r Gymraeg i ddenu mwy o blant at yr iaith, dwi ddim yn gweld problem.