daflog

  • Cyhoeddwyd: 16:32, Mai 11, 2006
  • Categori: Scymraeg, Y We
  • Sylwadau: 2

Y We Scymraeg

Yn parhau y thema, des i ar draws wefan cwmni Galeri, sy’n “asiantaeth o fri” ar gyfer cantorion, cerddorion. Mae’r dudalen gyntaf yn cynnig dewis iaith gyda’r baneri bondigrybwyll, ond beth am y tu fewn? Dyw’r cyfieithiadau ar y dudalen gartref Cymraeg ddim yn dechrau da – “cleientydd logiwch yma”, “Digwyddiadau ar ddod”. Does neb wedi cyfieithu’r newyddion Cymraeg chwaith, felly mae yna dudalennau deniadol Null.

Mae’n anodd credu fod rhai cwmnïau yn hapus i gael wyneb cyhoeddus mor druenus ond efallai dyliwn i wybod yn well hefyd erbyn hyn.

2 o sylwadau to “Y We Scymraeg”


  1. Mei
    ar Mai 12, 2006
    @ 09:20

    Watcha be ti’n ddeud, ma nhw’n © 2002…


  2. dafydd
    ar Mai 12, 2006
    @ 10:36

    Mae gyda nhw wefan crap ers 4 mlynedd ‘te.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.