Dreigiau Cymru

Mae rhai aelodau o’r Cynulliad wedi bod yn grwgnach, yn ei modd arferol am ail-frandio y WDA a’r Bwrdd Croeso gyda logo newydd. Mae’n amlwg nad yw’r gwleidyddion yma yn deall rhwng brand a logo. Mae brand yn cwmpasu y ‘neges’ a’r syniadau sy’n cael ei cyfleu gan y cynnyrch - sef Cymru yn yr achos yma; fel gwlad, rhywle i wneud busnes a fel cyrchfan gwyliau.

Nid y logo sy’n cyfleu hynny ond y ddelwedd o’r cynnyrch sy’n cael ei werthu drwy ddeunydd marchnata, a thrwy profiad pobl sy’n ymweld a Chymru am fusnes neu pleser. Mae logo yn bwysig fel symbol i ddal sylw ond nid gwerthu tiniau Coke yw’r pwrpas, ond delwedd ac adnabyddiaeth. I ddweud y gwir, wrth werthu gwlad a diwylliant, rhan fach o’r ateb yw logo - mae pobl yn llawer mwy tebygol o gofio ac ymateb i ddelweddau o dirlun, adeiladau a phobl.

Mae Mike German wedi cwyno am “logo draig arall eto”. A mae Nick Bourne yn dweud fod y ddelwedd yn ystrydebol cyn mynd ymlaen i ddweud “if it’s not, broke don’t fix it” sydd ychydig yn gymysglyd a dweud y lleia. Mae’n amlwg nad oedd defnydd o ddraig mewn logo wedi ‘torri’ a felly dyw hi ddim wedi ei ‘trwsio’.

Dreigiau haniaethol oedd logos y WDA a’r Bwrdd Croeso a mae yna ddau arall yn logo y Cynulliad a’r Llywodraeth. Dwi’n deall felly - roedd hi’n iawn i’r WDA a’r Bwrdd Croeso ddefnyddio logo draig jyst am ei fod felna erioed, ond dyw hi ddim yn iawn ail-ddylunio’r ddau logo a’i cyfuno (sy’n arbed arian yn y pendraw). Dwi ddim yn cofio’r gwleidyddion yn cwyno pan wnaeth y WDA wario (wastio) £160,000 er mwyn i gwmni o Lundain newid ei logo o un draig i… ddraig arall gyda lliw ychydig bach yn wahanol!
WDA logo loco

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.