Telex

Telex.. hen ddyfais gyfathrebu oedd yn gymysgedd o ebost a ffacs - mi roeddech chi’n teipio’ch neges ar bysellfwrdd a roedd y testun yn cael ei ddanfon drwy’r rhwydwaith ffôn i argraffydd ar y pen arall. Ta waeth, mae e hefyd yn enw ar un o arloeswyr electro-pop y ganrif ddwetha’. Meddyliwch am Kraftwerk gyda hiwmor sy’n llai sych a difrifol.

Un o’i senglau mwya’ oedd Moskow Diskow a mae gen i frith gof o weld ei perfformiad hynod ar gystadleuaeth yr Eurovision yn 1980. Wnaethon nhw ryddhau 5 albwm cyn ‘gorffwys’ yn 1986.

Wel mae’r band o wlad Belg nôl gyda albwm newydd, sydd yn gymysgedd o electronica gyda dylanwadau o gerddoriaeth dawns mwy diweddar. Gwrandewch ar glipiau o’r caneuon newydd a phodlediad difyr ganddynt.

2 Sylw i'r cofnod “Telex”

  1. Meddai Dogfael:

    Hoff iawn o’r disgrifiad o Telex fel Kraftwerk gyda hiwmor!

    Diolch am y wybodaeth ychwanegol am Telex. Dwi’n ofni nad oedd gen i syniad o beth oedd enw’r grŵp hyd imi ddod o hyd o fideo o’u perfformiad ar y we, ond roeddwn i’n cofio’r perfformiad yn iawn. Roedd yn un o uchafbwyntiau cystadleuaeth cân Eurovision i mi - fel y caneuon cyntaf mewn Romansheg a Chatalaneg yn y gystadleuaeth - ac o’r herwydd yn gwbl fyw yn y cof ar ôl yr holl flynyddoedd.

  2. Meddai Johnny R:

    Nes i gyrru TELEX fewn cwrs cyfrifiadur gynnar yn Coleg Menai Fangor, bach o ‘thrill’ achos rhaid i fi a boi o wrecsam mynd fewn stafell genod (?) sy’n dilyn cwrs hamdden (sut i gweithio fewn swydd asient teithio), lot o lol am gyrru ‘Telex Go Iawn’ i cwmni Deithio Llandudno, (yn dderbyn sdwff coleg menai)..teimlad rhyfeddol ar y pryd..yn mynd adref swanced yp fod ni wedi gyrru TELEX i’r byd ‘go iawn’. All went pear shaped achos fy met wedi cael ‘jobyn trin gwallt’ o rhyw secsi chic..yn anffodus roedd y ‘cyt bowlan’ dim mor secsi a’r ferch swil, nath fy met gwisgo het baseball ym drop fis i cuddio’r cyt. Tua 1992ish, fy ges i MVQ neu rbeth am cwrs ychwangeol..piss easy.

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.