daflog

  • Cyhoeddwyd: 18:11, Chwefror 25, 2006
  • Categori: MP3, Newyddion
  • Sylwadau: 2

Ail-lansiad Plaid Cymru

Wel mae digon o sôn wedi bod am ail-frandio Plaid Cymru ar faes-e a llefydd arall. Beth sy’n drist yw gweld y smonach mae nhw wedi gwneud ohoni. Dyw’r logo newydd ddim mor ddrwg a hynny, os oedd Plaid Cymru yn gwmni masnachol. Ydi e’n addas i blaid wleidyddol? Dwi’n amau.

Mi roedd gwefan y Blaid yn destun jôc o’r blaen a does dim byd wedi newid er y cot newydd o baent- dy’n nhw ddim hyd yn oed yn gallu penderfynu pa ffont a lliw i ddefnyddio ar gyfer yr enw ‘Plaid’ yn eu logo. Mae cymru x ymhell ar y blaen o ran cyflwyniad a delwedd.

Ta beth, y ‘logo sain’ wnaeth fy nifyrru i fwya. Fe ges i’r syniad neithiwr o ail-gymysgu’r sampl sain ac ychydig oriau yn ddiweddarach des i lan a ‘Paid Cymru’. Mi fydd mics hirach o hwn yn cael ei wneud yn y man.

Paid Cymru (Mics Dai a Rea) [2.07MB]

2 o sylwadau to “Ail-lansiad Plaid Cymru”


  1. Nic Dafis
    ar Chwe 25, 2006
    @ 19:31

    Gwelliant mawr, o leia mae’n werth gwrando arno nawr.


  2. Johnny R
    ar Gor 17, 2006
    @ 18:33

    Toss pot o P/C wedi galw heno! Plis llenwi arolwg am Plaid Cymru..edrych fel lost 60 something..yn mwmblan..dal i disgwyl y lembo galw nol am y ffurflen, not a gwd advert for Plaid..The Losers Party Of Wales..malu cachu am y cymoedd..colli Fon..Ieaun Pwy? Bring back Keith Best or Lord Cledwyn..siars yn BT?Nes i roi enw David r Edwards ar y ffurflen..ac yn votio ar gyfer y BNP. More bombs..makes sense..Beiruit The Paris Of the Middle east..Plaid Cymru..what are they for???
    Johnny R

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.

Switch to our mobile site