Y Syniad Mawr Nesaf

Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd ‘ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi’n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o storïau am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmnïau arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu.

Mae hyn wedi golygu fod nifer o bobl wedi neidio ar yr un cwch a wedi meddwl am gychwyn gwefannau fel hyn ei hunain. Mewn gwirionedd, mae bron yn amhosib defnyddio syniad unigryw a’i efelychu mewn ffordd sydd ‘hyd yn oed yn fwy unigryw’. Dros y misoedd diwethaf yn y gwaith dwi wedi gweld pob math o syniadau gwirion yn dod mewn. Roedd rhai unigolion eisiau dechrau gwefan ‘yr un peth a Hotmail/Google/Flickr’, a daeth hanner dwsin o syniadau am wefannau ‘rhwydweithio cymdeithasol’; cynnig ffordd o gyfarfod a phobl o’r un diddordeb; ffeindio cariad; fforwm drafod ar rhyw bwnc arbennig.

Dau beth amlwg sy’n cysylltu’r syniadau yma i gyd - mae nhw eisiau dylunio ac adeiladu y wefan am y nesa peth i ddim a dy’n nhw ddim yn siwr iawn sut i wneud arian o’r wefan (neu fod ei cynllun busnes yn ‘gyfrinachol’ - fel arfer mae hyn yn golygu fyddan nhw’n gwneud pethau lan wrth iddyn nhw fynd ymlaen).

Y ffenomenon ddiweddaraf yw ‘gwerthu picsels’. Mae hwn yn con trick arbennig o dda, a ddechreuwyd gan Alex Tew. Prif fwriad y tric yma yw nid gwerthu hysbysebion, ond creu stori ddeniadol i’r cyfryngau - “dyma fi, fyfyriwr tlawd, yn gwneud ffortiwn ar y we heb godi bys”.

I fod yn deg, mae hwn yn ffordd hawdd o wneud arian sydd a hanes eitha hir, o gardota i fysgio ac i’r dulliau mwy dyfeisgar ar y we heddiw. Os gerddwch chi lawr Heol y Frenhines yng Nghaerdydd a gofyn i bawb sy’n pasio am 10 ceiniog i wneud ‘galwad ffôn bwysig’ mi fydd ganddoch chi nifer o bunnoedd erbyn i chi gyrraedd y castell.

Pwy fydd yn ymweld a gwefan y miliwn doler ar ôl i’r stori ddiflannu o’r cyfryngau? Neb - a felly dros y 5 mlynedd hir nesaf, ni fydd llawer o neb yn gweld yr hysbysebion. Mae rhan fwyaf o’r hysbysebwyr ar y safle yn ddigon cefnog i sbario ychydig ddoleri er mwyn dod yn ‘rhan o’r stori’, yn enwedig felly y cyfryngau torfol neu gwefannau gamblo. Wrth gwrs mae yna farchnad yn barod ar gyfer ‘prynu picsels’ - trefn mwy synhwyrol lle gall cwmnïau roi hysbysebion testun neu graffeg ar wefannau arall - gwefannau sydd o ddiddordeb i bobl ac yn cynyddu ei cynulleidfa yn raddol dros y blynyddoedd.

Mae’r uchod i gyd yn ffordd hir o ddod at ‘yr ongl Gymreig’ i’r ffasiwn rhyfedd yma, sef Million Pixel Wales a mi fydd Miliwn Picsel Cymru hefyd i gael cyn hir. Mae nifer o bobl eraill wedi trio efelychu’r syniad gwreiddiol felly fydd e’n ddiddorol gweld sut fydd sgam syniad unigryw yma yn datblygu.

Un sylw i'r cofnod “Y Syniad Mawr Nesaf”

  1. Meddai Rhodri:

    Wyt ti’n cynghori cwmniau TG te?

    Mae gen i syniad, a syniad sut i’w osod ond dim cynllun busnes eto.

    Nid yw’n ymwneud a gwerthu picseli!

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.