daflog

Bwyta sbam

Dwi wedi bod yn diodde cryn dipyn o sbam sylwadau ar y blog yma’n ddiweddar, er mae’n edrych fel ei fod wedi tawelu yn ddiweddar.

Mae’r blog wedi ei osod fel fy mod i yn gorfod cymedroli y sylw cyntaf gan unrhyw un – a mae hyn yn golygu fod pob neges sbam yn mynd i’r rhestr gymedroli yn syth. Mae hyn yn boen pan fo degau o negeseuon yn cael ei danfon gan fotiau sbam.

Ar ôl chwilio am y ffordd orau o atal sbam yn WordPress, a trio un neu ddau ategyn, mi ddes i ar draws Spam Karma 2. Mae hwn yn ategyn di-drafferth iawn a wedi bod yn effeithiol mor belled. Dwi hanner ffordd drwy gyfieithu y rhyngwyneb (gweinyddol) i Gymraeg – fan hyn.

Un sylw to “Bwyta sbam”


  1. dafydd
    ar Tach 15, 2005
    @ 13:41

    Tipyn o fynd ar y sbam heddiw.. wedi dal 40 neges heddiw. Dyw e ddim yn system berffaith gan ei fod yn gwastraffu IDs yn y gronfa ddata e.e. fe fydd sylw rhif 80 yn sydyn yn neidio i 120 oherwydd fod 40 neges sbam yn y cyfamser. Ond pwynt bach yw ‘na..

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.