Radio Digidol

Mae’r BBC wedi cyhoeddi y bydd radio digidol (DAB) yn ehangu i dri drosglwyddydd newydd yng Nghymru, sef Blaenplwyf, Preseli a Llanddona, yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae’n bosib fod y sylw i radio digidol wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf gan fod sianeli radio i’w clywed ar lein a thrwy setiau teledu digidol. Er hyn mae angen parhau i ehangu cyrhaeddiad DAB gan ei fod yn cynnig posibiliadau diddorol ar gyfer y dyfodol - sianeli arbennigol fel Radio Acen er enghraifft, sydd ar gael yn ardal Abertawe.

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.