O’r Gad Mr Iwan

Yn 1991, fe ddedfrydwyd Alun Llwyd a Branwen Niclas i’r carchar am 12 mis ar ôl torri mewn i swyddfeydd y llywodraeth fel rhan o ymgyrch Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith.

Er mwyn codi arian at CyI yn sgîl hyn (a fel esgus da i ddathlu sîn gerddoriaeth iach iawn ar y pryd), fe ryddhawyd CD O’r Gad (Ankst 020). Mae yna lot o stwff da ar hwn felly mi fydd rhaid dewis yn ofalus. Mae’r traciau yma i gyd wedi ei ryddhau ar albymau yr artistiaid eu hunain am wn i.

Aros Mae – How! [3.14MB]
Bob Delyn a’r Ebillion – Ffair y Bala [4.53MB]
Geraint Jarman – Tracsiwt Gwyrdd [4.33MB]
Datblygu – Popeth yn Gymraeg [3.82MB]

3 thoughts on “O’r Gad Mr Iwan

  1. Mae’r fersiwn o Ffair y Bala sydd ar Gedon rhywfaint yn wahanol – mae llais Nolwenn Corbell wedi ei ychwanegu ar hwnna. Well gen i’r fersiwn ar O’r Gad a bod yn onest.

    Mae’n wych clywed gymaint o sdwff hen a ddim-mor-hen eto – diolch.

  2. ‘Os dwi’n cofio’n iawn, Pop Peth yn Gymraeg’ ydi teitl y fersiwn hyn o Pop Peth.