Ges i benwythnos bach braf yn Nyfnaint mewn ty ar ochr aber yr afon Exe. Mae gen i set o luniau ar Flickr.
- Cyhoeddwyd: Awst 17, 2005
- Categori: Cerddoriaeth, MP3
- Sylwadau: 1
Plyms Danjerus
Doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn cerddoriaeth yng nghyfrwng fy mamiaith cyn tua 1990 (am nad oeddwn i’n ffan mawr o roc, ar y pryd). Ond pan glywes i Eirin Peryglus.. waw synthpop Cymrâg!
Dyma ddau gân gan y grŵp hynny oedd yn sefyll allan ar y pryd (yn bennaf am fod Nia Melville yn eu chwarae o hyd) – Y Cyfarfod a Epilog yn A Fwyaf – mae yna bob math o bethau yn mynd ymlaen yn yr ail… synthpop gyda sampls, bach o decno blips, gitâr jangli a solo trwmped jazz. Roedd rhain ar EP 12″ gafodd ei ryddhau yn 1989 ar label Ofn (OFN 07B).
Eirin Peryglus – Y Cyfarfod [4.82MB]
Eirin Peryglus – Epilog yn A Fwyaf [7.04MB]
Trenau Arafa Cymru
Yn ôl eitem newyddion fach fan hyn mae ‘dogfennau gafodd eu rhyddhau gan Lywodraeth y Cynulliad’ (lle? mae’n amhosib darganfod unrhywbeth ar gwefan grap y Cynulliad) yn dweud y byddai Trenau Arriva yn colli £70,000 (yn flynyddol, dwi’n tybio) os fyddai teithwyr yn trosglwyddo i’r cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de.
Wel bw hw. Os oedd Arriva yn llwyddo i gasglu’r tâl dyledus oddi ar bawb sy’n teithio mi fase’n nhw’n ennill y swm hynny yn ôl mewn ychydig o fisoedd. Ar hyn o bryd dwi’n cael lifft i’r gwaith yn y bore a chymryd y trên nol adre fel arfer. Felly tocyn sengl dwi’n cael, sydd yn £1.60 – er dim ond unwaith neu ddwywaith yr wythnos dwi’n talu, pan nad yw’r peiriant tocynnau wedi torri neu’r tocynnwyr yn rhy ddiog.
Heddi ddaeth tocynnwr (benywaidd) rownd yn reit fuan ar ôl cychwyn o’r orsaf yn y Bae. Wnaeth hi ddim gofyn am weld fy nhocyn, dim ond gofyn fasen i’n “hoffi” prynu un. Fel person gonest, wnes i ofyn am docyn sengl i Landaf (o’r Bae wrth gwrs gan mai dyna lle roedd y trên yn cychwyn). Roedd gen i ddarn dwy-bunt yn barod felly dyma roi hynny iddi. Roedd rhywun yn trio sgwrsio ‘da fi felly wnes i ddim cymryd llawer o sylw o’r tocyn a’r newid mân ddaeth nôl cyn iddi droi a brysio lawr y trên er mwyn agor y drysau.
Mi wnes i adael y trên i groesi draw i blatfform 1 a gymres i olwg ar y tocyn. Roedd e wedi’i brintio yn anghywir a felly’n dweud ‘ADYR’ i ‘ANDAF’ (Radyr i Llandaf) a phris 90c. Edryches i ar y newid a disgwyl cyfri £1.10 (mewn darnau 20 a 10). Ond na, roedd gen i £1.90 o newid!
Os nad yw’r tocynnwyr yn gallu cyfri arian nac yn trafferthu i werthu tocynnau rhan fwyaf o’r amser, fydd hi’n Arrivederci ar Arriva mae arna’i ofn.
- Cyhoeddwyd: Awst 17, 2005
- Categori: Cerddoriaeth, Y We
- Sylwadau: 3
Môn-Heli
Dwi ‘rioed di clywed am y grŵp Môn-Heli (dwi ddim yn gwrando ddigon ar Radio Cymru yn ystod y dydd mae’n rhaid), ond mae’n nhw’n edrych fel un o’r pethau rhyfedd hynny mae Cymru yn dal i gynhyrchu – parau canu ysgafn gwerinol, sydd yn dad a merch, dau frawd neu’n wr a wraig. Mae popeth am ei gwefan yn gweiddi ‘kitsh’, o lun y boi gyda’i Fender, llun y ci neu’r eitemau newyddion..
Nain Karen yn gant
…
Nain Karen wedi marw
O, reit.
- Cyhoeddwyd: Awst 15, 2005
- Categori: Newyddion
- Sylwadau: Comments Off
ffatri born
Newydd ddarllen stori am ddyn yn cynhyrchu fideos porn mewn ty ym Mae Caerdydd. Wel wel, mae hyn tua canllath o’r swyddfa.. pwy fase’n meddwl? Dwi ddim cweit yn adnabod y disgrifiad “quiet, affluent area” chwaith.