Ieithoedd Gmail

Tra’n edrych ar bigion Nic welais i’r llyfrnod yn cyfeirio at y ffaith fod Gmail newydd lansio gyda 12 iaith newydd, ond ddim y Gymraeg eto.

Wel, mae’r cyfieithiad Cymraeg wedi ei wneud a’i wirio ers rhai wythnosau ond does dim dal ar pryd fe fydd hynny yn ymddangos. Mae’n debyg fod y gwaith ar Gmail wedi sefydlogi a felly ni ddylai llinynnau arall i’w cyfieithu am nawr.

Falle fydd hi’n hir yn cyrraedd ond dwi’n credu fydd safon y cyfieithiad yn llawer uwch nac oedd cyfieithiad chwiliad Google ei hunan yn y dechrau.

4 thoughts on “Ieithoedd Gmail

  1. Mae son fod Google am symud i greu system ffon ar lein tebyg i Skype – unrhyw son am gais i’w gyfieithu? Byddai hynny’n sbort cael hwnna’n Gymraeg

  2. Pingback: Google Reader a chyfieithiadau Cymraeg «