Ffrancopop

Dwi wedi bod yn sycyr erioed am ganeuon pop ffrengig neu rwsieg. O’n i’n arfer tiwnio mewn i sianeli radio aneglur ar shortwave i wrando ar lleisiau a synau rhyfedd ac estron. Ar ôl darganfod sianel Ffrengig, un o’r caneuon cynta glywes i oedd ‘Voyage, Voyage’ gan Desireless. Aeth hynny ymlaen i ddeg uchaf siartiau Prydain yn 1988 - mae’r saeson yn ail-ddarganfod pop ffrengig bob hyn a hyn; dyna flwyddyn ‘Joe le Taxi’ hefyd.

Tra’n chwilio am wybodaeth am ‘Voyage, Voyage’ des i ar draws cover o’r gân wedi ei berfformio (yn Ffrangeg) gan gantores o Rwsia - Zamsha. Mae’r fersiwn yma yn codi’r bpm ac yn fwy techno-aidd, ddim mor rhamantaidd a’r gwreiddiol. Dwi’n cyflwyno’r ddau mp3 yma i chi:

Desireless - Voyage, Voyage (fersiwn 1988) [5.17 MB]
Zamsha - Voyage, Voyage [6.18 MB]

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.