Cymdeithas Meddalwedd

Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod fe fydd lansiad Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg, “i hybu defnydd ac ymwybyddiaeth o’r deunydd sydd ar gael yn yr iaith”. Mae hyn yn gam bwysig ymlaen nid yn unig i hyrwyddo meddalwedd Cymraeg ond sicrhau safonau agored. Gobeithio hefyd fydd yna bwyslais ar fanteision datblygu meddalwedd agored gan fod hynny bob amser yn gwneud y gwaith o gyfieithu yn haws.

3 Sylw i'r cofnod “Cymdeithas Meddalwedd”

  1. Meddai Nic Dafis:

    Oes amser wedi’o osod am hyn? Gobeithio fydd hi ddim yn clasho gyda’r Talwrn. ;-)

  2. Meddai dafydd:

    4.30 yn ei pabell nhw (ddim yn siwr iawn le yn union fydd hwn). Yn anffodus fyddai ddim fyny ar y Sadwrn cynta flwyddyn yma :(

  3. Meddai Dewi B Jones:

    Dros ffordd i’r babell ryngwladol a dim yn bell o’r babelli fwyd a’r bar :)

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.