Diwrnod y Gweinyddwyr System
Friday, July 29, 2005 14:26Wnaeth cyd-weithiwr ddod fyny ata’i bore ‘ma a dweud “Happy Sysadmin Day”. “Is it?” medde fi. Wel mae hi wedi dod rownd eto yn eitha cyflym. Dwi’n cael fy ngwerthfawrogi bob dydd, wrth gwrs…
Wnaeth cyd-weithiwr ddod fyny ata’i bore ‘ma a dweud “Happy Sysadmin Day”. “Is it?” medde fi. Wel mae hi wedi dod rownd eto yn eitha cyflym. Dwi’n cael fy ngwerthfawrogi bob dydd, wrth gwrs…
Dwi wedi bod yn sycyr erioed am ganeuon pop ffrengig neu rwsieg. O’n i’n arfer tiwnio mewn i sianeli radio aneglur ar shortwave i wrando ar lleisiau a synau rhyfedd ac estron. Ar ôl darganfod sianel Ffrengig, un o’r caneuon cynta glywes i oedd ‘Voyage, Voyage’ gan Desireless. Aeth hynny ymlaen i ddeg uchaf siartiau [...]
Ar hyn o bryd mae Nominet, y corff sy’n rheoli parth .uk, yn ymgynghori ar system IDN (Internationalised Domain Names) sef ffordd o ddefnyddio, ymysg pethau eraill, acenion o fewn enw parth. Er enghraifft mi fyddai’n bosib defnyddio dŵrcymru.co.uk - dim ond dwrcymru.co.uk sydd ar gael ar hyn o bryd.
Yn amlwg mae hyn yn bwysig [...]
O’n i’n darllen stori bore ‘ma ynglyn a gwrthynebiad i osod mast ffôn. Fel arfer yn y byd modern mae pawb eisiau hwylustod technoleg newydd heb orfod mynd i’r drafferth o’i ddeall - felly mae’n amhosib i’r bobl yma gymeryd penderfyniadau call ynglyn a’r dechnoleg neu’r wyddoniaeth tu ôl iddo. Y dewis haws wrth gwrs [...]
Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod fe fydd lansiad Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg, “i hybu defnydd ac ymwybyddiaeth o’r deunydd sydd ar gael yn yr iaith”. Mae hyn yn gam bwysig ymlaen nid yn unig i hyrwyddo meddalwedd Cymraeg ond sicrhau safonau agored. Gobeithio hefyd fydd yna bwyslais ar fanteision datblygu meddalwedd agored gan fod hynny [...]