Swyddi Sony

Daeth newyddion digalon heddiw am swyddi yn mynd yn ffatri Sony ym Mhen-y-bont a Pen-coed. Mae’n anffodus fod y math yma o weithgynhyrchu yn un anodd i’w drosglwyddo’n araf i dechnoleg newydd - rhaid dechrau eto gyda offer newydd a sgiliau newydd i’w dysgu.

Ta beth, clip sain bach addas ar gyfer y newyddion yma oddi ar fflecsi disc “Dyddiadur Johnny R” (R-BEN 06, 1991). Dyw’r trac cyfan ddim gen i yn anffodus ond dyma flas.

Sony Sandra, Sony Kevin [3.4MB]

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.