Nid 8 trac
Rhywbeth bach arall o’r archif nawr - trac gan Nid Madagascar, un o fandiau cynnar David Wrench. Mae’r trac yma wedi ei recordio oddi ar y radio, felly does gen i ddim llawer o fanylion amdano. O’n i’n arfer chwarae hwn yn aml circa 92/93, ac yn hoff iawn o’r steil ganu deadpan i gymharu a’r gerddoriaeth ddyrchafol. Dwi ddim yn gwybod beth yw enw cywir y gân - wnes i ei gofnodi fel “Trac 8″ ar y pryd ond o wrando eto, “Tragwydd” sy’n gwneud fwy o synnwyr. Sdim ots, dyma’r trac:
Nid Madagascar - Tragwydd [3.66MB]