Byd Bobs

Nôl yn yr 80au hwyr roedd Huw ‘Bobs’ Pritchard yn ganwr unigryw o dan yr enw Byd Afiach. Fe fyddai’n bosib ei ddisgrifio fel “un dyn a gitâr” ond gyda’r traciau ryddhawyd ar dâp mae yna gymysgedd o arddulliau o ganeuon acwstig syml i bop arbrofol.

Yn nechrau’r 90au fe roedd Bobs yn un o gyflwynwyr Hwyrach ar Radio Cymru gyda’i sioe Wplabobihocdw, a roedd ganddo sioe ‘Y Bocs’ ar S4C hefyd. Fe ‘laddwyd’ y Bobs (a Hwyrach yn gyfangwbl) gan nad oedd ei ffraethineb yn ddigon addas i agenda fasnachol newydd Radio Cymru.

Wrth dwrio drwy hen dapiau wnes i ddarganfod recordiad o sioe olaf y Bobs, yn 1992 dwi’n credu. Ar y pryd wnes i ddim sylweddoli pwysigrwydd yr achlysur a felly dim ond yr awr olaf gafodd ei recordio, a wnes i dorri allan rhai o’r caneuon. Ond mae’n werth gwrando arno beth bynnag. Mae’r recordiad yn agor gyda Tomos, mab Huw yn canu cân i ni. Mwynhewch!

Sioe olaf y Bobs [15MB]

2 Sylw i'r cofnod “Byd Bobs”

  1. Meddai Rhods:

    Edrych mlaen i lwytho hwn, diolch Daf!

    Dowch a Bobs nol!

  2. Meddai Arawn:

    waw diolch ti!!! dwi yn ffrindia da efo Huw dyddia ma, ond dwi rhy ifanc i gofio fo fel y cymeriad bobs, er hyd heddiw mae’n galw ein hyn yn bobs pan mae’n bod yn wirion!! lol
    diolch eto

Rhoi ymateb

XHTML: Fe allwch ddefnyddio y tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Dalier sylw: Mi fydd dy sylw cynta ar y blog hwn yn cael ei gymedroli a ni fydd yn ymddangos ar unwaith. Does dim angen ail-anfon dy sylw.