daflog

  • Cyhoeddwyd: 22:16, Mehefin 29, 2005
  • Categori: Cyffredinol
  • Sylwadau: 2

Rhaid dechrau rhywle

Croeso i daflog – dyna’r enw gwirion dwi wedi ddewis. Wneith y tro, am nawr. Dwi ddim yn un am ddilyn ffasiwn ond fe stopiodd blogio fod yn ffasiynol blwyddyn diwethaf (mae fy nhad wedi clywed amdano) felly dwi am ddechrau un nawr.

Fe fyddai’n defnyddio y blog i gofnodi unrhywbeth diddorol fyddai’n dod ar draws ac unrhyw brosiectau (rhai gwaith a phersonol) fyddai’n gweithio arno. Bwriad penodol arall yw cyflwyno cerddoriaeth Cymraeg o’r gorffennol yn enwedig o’r 80au a 90au cynnar (“fy nghyfnod i”) a ychydig o syrpreisys falle.

Dwi’n gobeithio gallu postio yn reit cyson, ond dwi’n addo dim, reit? :)

2 o sylwadau to “Rhaid dechrau rhywle”


  1. Rhys
    ar Gor 1, 2005
    @ 13:07

    Paid bod yn gâs at dy dad!


  2. Nic Dafis
    ar Gor 15, 2005
    @ 21:42

    Un o’r blogiau wedi bod yn aros amdano fe ers meityn. Hen bryd, Dafydd. ;-)

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.

Switch to our mobile site